Mae GISDA efo cytundeb lefel gwasanaeth efo Cyngor Gwynedd, jest i egluro sut mae o'n gweithio yng Ngwynedd. Rydyn ni'n cyflogi'r personal advisers, so mae Cyngor Gwynedd yn rhoi arian i ni, a wedyn mae gennym ni dair personal adviser llawn amser ac mae gennym ni un person yn gweithio rhan amser sydd yn ymgysylltu efo pobl ifanc i gadw pobl ifanc mewn gwaith.
Felly, o ran y pethau dwi'n gweld sydd yn fylchau, mae o'n sefyllfa eithaf cymhleth. Dwi'n meddwl, i ddechrau, ein bod ni angen grwpio pobl ifanc o ran beth ydy eu hanghenion nhw. Er enghraifft, rhieni ifanc sydd yn dod yn rhieni ifanc sydd wedi bod mewn gofal; dwi'n meddwl eu bod nhw'n grŵp o bobl ifanc sydd angen cefnogaeth benodol am gyfnod hirach. Yn amlwg, fel roedd Christine yn ei ddweud am iechyd meddwl, y cyfnod oed trosglwyddo, mae hwnnw'n her enfawr. Dwi'n meddwl bod yna lot o ffocws ar oed yn lle angen, lle mae pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal yn aml heb wedi datblygu yr aeddfedrwydd buasech chi'n disgwyl gan, efallai, person ifanc 18 oed arall. Felly, mae yna fwlch mawr yn y trosglwyddo rhwng gwasanaethau iechyd meddwl plant i oedolion.
Buaswn i'n jest licio jest ffocysio ar un peth, lle mae gwasanaeth iechyd, ac yn arbennig y gwasanaethau iechyd meddwl, yn aml yn dweud, 'O, dydy o ddim yn cyrraedd criteria ni—mae o'n behavioural,' 'Dydy o ddim yn mental health—mae o'n behavioural.' Mae'r gair 'behavioural' yma yn codi yn aml, a wedyn, beth? Pwy sydd yn gyfrifol am y bobl ifanc yna sydd yn dioddef, yn amlwg mewn trawma, ond dydyn nhw ddim yn cyrraedd, efallai, threshold gwasanaethau iechyd meddwl?
Wedyn, grŵp arall ydy pobl ifanc o'r gymuned LGBT. Mae yna fwlch mawr yn y fanna. Mae pobl ifanc yn gyffredinol, i ddweud y gwir, ond efallai fwy o bobl ifanc ôl-ofal, dydyn nhw efallai ddim wedi cael eu hystyried ddigon. Grŵp arall ydy neurodivergents, a hefyd—. Buaswn i'n gallu siarad trwy'r dydd am hyn, so efallai bydd yn rhaid ichi fy stopio fi. Mae pobl ifanc sydd â neurodivergence, hefyd—. Dwi'n siŵr bod yna bobl eraill wedi codi pethau fel hyn yn barod, felly dwi ddim eisiau ailadrodd pethau rydych chi wedi'u clywed yn barod.
Dau bwynt arall ydy, pan fo pobl ifanc yn 'transition-io' o'r gwasanaethau plant i wasanaethau oedolion, dydyn nhw yn aml ddim cweit wedi deall beth ydy eu hawliau nhw, a bod dyletswydd gwasanaethau cymdeithasol â bod y ddyletswydd statudol yn ôl y Ddeddf yn newid yn llwyr pan fo pobl ifanc yn troi yn 18, a dydy pobl ifanc ddim cweit wedi deall beth mae hynny'n ei olygu iddyn nhw. Mae hynny'n rhywbeth dwi'n poeni amdano.
A wedyn mae gennych chi grŵp o bobl ifanc wedyn sydd efallai yn 22 neu 23, sydd wedi aeddfedu, sydd wedi setlo yn eu bywydau, ond efallai sydd eisiau help. Adeg yna, maen nhw angen y cymorth go iawn, ond erbyn hynny mae wedi symud ymlaen a does yna ddim lot o gyswllt, rili. Dwi'n meddwl bod eisiau mwy o help o ran hynny.