Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
- Dechrau
- 09:30
- Cyfraniadau
- 137
- Geiriau a lefarwyd
- 11,927
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:30.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da. Blwyddyn newydd dda i bawb. Hoffwn i groesawu'r Aelodau i'r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Oes gan unrhyw Aelodau fuddiannau i'w datgan ar ddechrau'r cyfarfod, plîs? Na, dwi ddim yn gweld bod yna, felly fe wnawn ni symud ymlaen.
2. Yr heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol: Sesiwn dystiolaeth gyda darlledwyr cenedlaethol
Eitem 2 y bore yma ydy edrych ar yr heriau sy'n wynebu gweithlu'r diwydiant creadigol. Mae gennym ni sesiwn dystiolaeth gyda darlledwyr cenedlaethol. Gaf i ofyn i'n tystion y bore yma i gyflwyno eu hunain ar gyfer y record? Fe wnaf i fynd o'r chwith i'r dde fel rwyf i'n edrych arnoch chi ar hyn o bryd. Fe wnaf i fynd at Siân Doyle yn gyntaf.