Economy, Trade, and Rural Affairs Committee
- Dechrau
- 09:31
- Cyfraniadau
- 132
- Geiriau a lefarwyd
- 10,422
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:31.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croeso i bawb i'r cyfarfod hwn o Bwyllgor yr Economi, Masnach, a Materion Gwledig y Senedd. Dwi ddim wedi derbyn unrhyw ymddiheuriadau y bore yma. A oes yna unrhyw fuddiannau hoffai Aelodau eu datgan o gwbl? Nac oes.
2. Papurau i'w nodi
Felly symudwn ni ymlaen at eitem 2, sef papurau i'w nodi. Mae yna nifer o bapurau i'w nodi; byddwch chi'n falch o glywed dwi ddim yn mynd i fynd trwyddyn nhw i gyd. Ond, dwi eisiau tynnu sylw at eitem 2.7, sef fy llythyr at y Gweinidog ffyniant bro, ac egluro bod y pwyllgor yn dal i obeithio cael cynrychiolaeth o Lywodraeth y Deyrnas Unedig mewn sesiwn ar gyfer yr ymchwiliad hwn. Ond, a oes yna unrhyw faterion yn codi o'r papurau yma o gwbl? Nac oes.