Diolch yn fawr iawn. Yn wir, efo darpariaeth hamdden, pan wnaethon ni gychwyn yn 2013, roedden ni’n meddwl, 'Does yna ddim ffordd byth fedrwn ni gadw'r holl ganolfannau hamdden yma sydd gennym ni.' Ac wedyn mi wnaethon ni gomisiynu cwmni i edrych ar y ddarpariaeth a sut ddylem ni fynd ymlaen efo hi; a ddylem ni ei rhoi hi i mewn i ymddiriedolaeth; a ddylem ni fynd i roi'r ddarpariaeth i gwmni hyd braich; neu a ddylem ni ei chadw'n fewnol. Ac mi wnaeth cryn waith gael ei wneud ar hyn, i ddweud y gwir, ar beth oedd ei angen, a pan ddaeth y casgliadau yn ôl i ni, doedd yna ddim opsiwn arall ond cadw'r ddarpariaeth yn fewnol.
Mae oed y stad yn hen. Y canolfannau hamdden, efallai bod dwy ran o dair drwy Gymru yn dod i ddiwedd eu hoes ddelfrydol, i ddweud y gwir wrthych chi, a buasai yna ddim un cwmni hyd braich, na neb, eisiau cymryd liabilities ar eu llyfrau i gychwyn, os nad oeddech chi'n mynd i wario miliynau i'w rhoi nhw mewn stad twt cyn cychwyn. Felly efo stad, y cyflwr, a dweud y gwir—. Hynny yw, mae pob dim yn gweithio'n iawn, ond dydyn nhw ddim yn ganolfannau hamdden delfrydol ar draws Cymru, heblaw efallai bod yna un neu ddau o rai newydd yn rhywle.
Felly, does yna ddim posib rhoi bwndel o rai fel yna at ei gilydd i gwmni hyd braich. Wedyn, beth wnaethon ni benderfynu oedd eu cadw nhw'n fewnol, ond trio gwneud iddyn nhw i dalu ar eu pennau eu hunain, a'r gost fwyaf ydy cost pwll nofio. Pe tasai gennych chi lai o byllau nofio, dwi'n siŵr y buasen nhw yn broffidiol. Ond dyna fo, rydych chi eisiau rhoi cyfle ym mhob cornel efo pwll nofio.
Ond beth sy'n bwysig ydy bod yna fuddsoddi yn slow bach ym mhob canolfan hamdden, ac wedyn drwy wneud hynny, rydych chi wedyn yn cynyddu yr incwm sy'n eu gwneud nhw'n fwy hyfyw a mwy cynaliadwy. Dwi'n meddwl un fantais anferthol rydyn ni wedi ei chael dros y blynyddoedd diwethaf ydy gweithio gyda Chwaraeon Cymru, ac mae'r gwelliannau rydyn ni wedi gallu eu gwneud wedi codi niferoedd. Rydyn ni rŵan efo tua 600,000 y flwyddyn yn defnyddio'r canolfannau hamdden yma, ac rydyn ni wedi gallu buddsoddi; mae gennym ni nifer rŵan o gaeau 3G yn dod â mwy o ddefnyddwyr i mewn. Rydyn ni wedi gallu rhoi offer ymarfer newydd ym mhob un canolfan hamdden, gwerth tua £200,000, ac mae hyn drwy weithio gyda Chwaraeon Cymru, ac mae'r offer hamdden yma yn rai dwyieithog, so rydych chi'n Gymraeg ac yn Saesneg yn cael eich canlyniadau a'r wybodaeth. Ac felly mae'r buddsoddiad yma rydyn ni wedi ei wneud, ac wrth frandio—mae gennym ni Môn Actif, sy'n frand gwahanol—mae o wedi gweithio ar ei ganfed, ac i ni, mae wedi bod yn benderfyniad perffaith i'w cadw yn fewnol, am ein bod ni rŵan mewn sefyllfa ofnadwy o dda yn darparu'r gwasanaeth, ond mi wnaethon ni sbïo ar hynny'n drylwyr a doedd yna ddim mantais i ni o'u hallanoli nhw.
Un fantais fuasai wedi bod buasai i gael gwared ar y rates, y national non-domestic rates, ond doedd gennym ni ddim digon o ganolfannau hamdden i wneud hynny'n fanteisiol. Mae gennym ni un ganolfan hamdden sydd ynghlwm ag ysgol, ac wedyn mae yna fantais yn y ganolfan hamdden yna nad oes yna ddim trethi efo hi, ac felly mae'r ganolfan hamdden yna'n gwneud proffit, os ydych chi'n ei alw fo'n broffit, felly, ond mae o'n gweud surplus, felly. Ond mae hynny oherwydd does yna ddim trethi ar y ganolfan yna, am ei bod hi'n styc i ddarpariaeth un o'r ysgolion uwchradd yn y dydd. Felly, mae trethi yn lladd canolfannau hamdden. Heb y trethi, dwi'n siŵr y buasem ni mewn lle hollol wahanol.