Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee
- Dechrau
- 09:30
- Cyfraniadau
- 178
- Geiriau a lefarwyd
- 13,032
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:30.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
Bore da, bawb, a chroeso i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yma yn Senedd Cymru. Croeso i Aelodau i'r cyfarfod. Mae hwn yn gyfarfod sy'n digwydd ar fformat hybrid, ac, ar wahân i addasiadau yn ymwneud â chynnal y trafodion mewn fformat hybrid, mae holl ofynion eraill y Rheolau Sefydlog yn aros yn eu lle. Mae eitemau cyhoeddus y cyfarfod yma yn cael eu darlledu'n fyw ar Senedd.tv, ac mi fydd Cofnod y Trafodion yn cael ei gyhoeddi yn ôl yr arfer. Mae e'n gyfarfod dwyieithog, wrth gwrs, ac felly mae yna gyfieithu ar y pryd ar gael, o'r Gymraeg i'r Saesneg. Ond cyn inni fwrw iddi, gaf i ofyn a oes gan unrhyw un unrhyw fuddiannau i'w datgan? Na. Dim byd. Iawn. Diolch yn fawr iawn.
2. Sesiwn dystiolaeth ar ddarpariaeth a pherfformiad y rheilffyrdd
Ymlaen â ni at yr ail eitem, felly. Achos y bore yma, wrth i ni baratoi ar gyfer gwaith craffu blynyddol Trafnidiaeth Cymru, a chraffu cyffredinol ar drafnidiaeth gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, mi fyddwn ni'n cynnal sesiwn dystiolaeth y bore yma mewn perthynas â darpariaeth rheilffyrdd, perfformiad ac effaith ar deithwyr. Ac mae'r panel sydd o'n blaenau ni y bore yma yn mynd i rannu eu profiad a'u harbenigedd gyda ni fel rhan o'r gwaith hwnnw. Felly, gaf i estyn croeso i David Beer, sydd yn uwch reolwr Cymru gyda Ffocws ar Drafnidiaeth; i Peter Kingsbury, sy'n Gadeirydd Railfuture Cymru; ac i Jools Townsend, sy'n ymuno â ni ar-lein, sy'n brif swyddog gweithredol Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol? Croeso i'r tri ohonoch chi. Mae gennym ni rhyw awr a hanner o sesiwn. Mae'n bosib efallai y cymerwn ni ryw egwyl fer rywle yn y canol—fe gawn ni weld sut mae hi'n mynd. Ond fe wnaf i gychwyn, efallai, drwy ofyn i chi jest am eich asesiad cyffredinol chi o reilffyrdd Trafnidiaeth Cymru ers cymryd drosodd y fasnachfraint ryw bum mlynedd yn ôl. Pwy sydd eisiau cychwyn?