Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
- Dechrau
- 09:29
- Cyfraniadau
- 244
- Geiriau a lefarwyd
- 9,953
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:29.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da. Croeso i'r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Mi wnaf i ofyn, cyn i ni fynd i mewn i'n sesiwn gyntaf, os oes gan unrhyw Aelodau fuddiannau i'w datgan. Dwi ddim yn gweld bod.
2. Craffu ar waith Llyfrgell Genedlaethol Cymru - tymor yr hydref 2023
Felly, mi wnawn ni symud yn syth ymlaen at eitem 2, sef craffu ar waith Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Dŷn ni yn falch iawn o gael ein tystion gyda ni y bore yma. Mi wnaf ofyn i'r tystion i gyflwyno'u hunain ar gyfer y record. Mi wnaf i fynd at Ashok yn gyntaf.