Dwi’n dechrau efo’r prif welliant yn y grŵp, gwelliant 14. Pwrpas y gwelliant yma ydy adlewyrchu mai’r rhai sydd wrth wraidd y gwasanaethau iechyd yr ydym ni yn eu trafod o dan y Bil yma ydy pobl—defnyddwyr gwasanaethau. Beth rydym ni'n gwneud yn fan hyn ydy gwneud yr angen i gynnwys defnyddwyr gwasanaethau mewn trafodaethau am gaffael gwasanaethau yn egwyddor craidd yn y Bil. Ac mae hynny'n bwysig, dwi’n credu, yn enwedig o'i gymryd ochr yn ochr efo rhai o'r gwelliannau eraill sy'n ymwneud ag ymgynghori.
Mae gwelliant 15 yn yr un grŵp yn cyflawni sawl diben: (1), mae’n cynnig diffiniad o beth yn union sy’n cael ei olygu wrth dryloywder a thegwch, ond (2), gadewch i fi ei gwneud hi yn eglur iawn yn fan hyn ar ddechrau ein trafodaethau ni mai blaenoriaeth amlwg i fi wrth ymdrin efo’r ddeddfwriaeth yma ydy trio gwneud yn siŵr i’r graddau mwyaf posib nad ydy o’n agor y drws i fwy o breifateiddio yn y gwasanaeth iechyd; ar ben hynny, lle mae gwasanaethau'n cael eu caffael o’r tu allan, fod y rheini'n cael eu caffael gan sefydliadau sydd ddim yn gweithredu er mwyn elw; ac ymhellach, lle mae gwasanaethau’n cael eu caffael o’r sector breifat, fel y mae rhai gwasanaethau arbenigol ar hyn o bryd, er enghraifft, bod popeth yn cael ei wneud i drio atal cronyism. 'Cronyism' ydy’r gair cliriaf i’w ddefnyddio, mae’n siŵr. Rydym ni wedi gweld efo systemau caffael yn ystod y pandemig, er enghraifft, beth sy’n digwydd pan fydd prosesau caffael arferol yn cael eu taflu o’r neilltu, a phobl yn elwa ar sail efallai bwy maen nhw yn eu nabod a beth ydy eu cysylltiadau nhw. All hynny byth fod yn dderbyniol, ac mae gwelliant 15 yn trio atal y cronyism hwnnw. Dwi’n annog aelodau’r pwyllgor i gefnogi’r gwelliant yna, fel datganiad cwbl amwys i’r perwyl hwnnw.
Hefyd yn yr un grŵp, mae gwelliant 16, sy’n cyflawni diben tebyg ac, yn wir, yn ei gwneud hi’n fwy clir fyth bod rhaid sicrhau nad oes dim buddiannau yn gallu gwrthdaro. Dwi’n galw ar y pwyllgor i gefnogi hwnnw hefyd. Mae'r rhain yn egwyddorion allweddol bwysig. Chwilio am fodd o sicrhau cydymffurfiaeth efo’r egwyddorion hynny—bod yr egwyddorion yn cael eu gweithredu—mae gwelliant 18 yn yr un grŵp, drwy ychwanegu i’r Bil gymal sy’n gofyn am oruchwyliaeth annibynnol. Mi wnes i ystyried cynnwys yn union pa fath o oruchwyliaeth—er enghraifft, sefydlu rhyw fath o swyddfa goruchwylio caffael annibynnol, neu ryw fath o swyddfa gydymffurfiaeth arall—ond dwi'n credu bod modd cyflawni'r amcan yma mewn gwahanol ffyrdd. Ond sicrhau bod y goruchwyliaeth yn annibynnol sydd yn bwysig yn fan hyn. Rydyn ni angen cael hyder drwy’r broses gaffael fod yna neb yn gallu trio ecsbloetio prosesau mewn unrhyw ffordd, ac, yn benodol, nad yw'r ddeddfwriaeth yma'n gwneud ecsbloetio, yn gwneud cronyism, yn gwneud preifateiddio yn haws. A dwi’n credu bod y rhain yn egwyddorion y mae’r Gweinidog yn eu rhannu efo fi, a dwi’n annog y pwyllgor i gefnogi’r gwelliant hwnnw hefyd.
Dwi’n troi yn olaf yn y grŵp yma at welliant 22. Mae hwn hefyd yn welliant sylweddol a phwysig, ac, yn benodol iawn, ceisio cyfyngu ar breifateiddio eto ydy’r nod. Dwi’n gwahodd Aelodau Llafur yn benodol i gefnogi’r egwyddor dwi’n trïo’i chyflawni a’r ffordd dwi’n trio mynd o’i chwmpas hi. Mi welwch chi mai beth sydd yma yn gyntaf ydy galwad am ddatganiad o egwyddorion caffael. Dwi’n gobeithio y bydd y Llywodraeth bresennol yn rhannu’r un egwyddorion â fi yn hynny o beth, ac un o’r egwyddorion ydy ceisio atal preifateiddio, fel dwi’n dweud. Mae’r gwelliant yn nodi’n glir beth dwi eisiau ei weld yn y datganiad o egwyddorion. Yn gyntaf, beth ddylai fod yn flaenoriaeth o ran model darparu gwasanaethau—yn gyntaf, y gwasanaeth ei hun yn darparu. Dyna fyddwn i'n dymuno ei weld yn cael ei osod fel blaenoriaeth gennym ni—hynny ydy, gwasanaeth mewnol NHS i'r NHS, gan yr NHS. Os dydy hynny ddim yn bosib, dylid trio darparu trwy bartneriaeth efo corff cyhoeddus arall. Os ydy hynny ddim yn bosib, yna trwy gaffael o'r sector wirfoddol neu'r trydydd sector ddylai fod yr opsiwn nesaf. A dim ond wedyn, os ydy'r rheini i gyd yn amhosib, y dylid troi at ddarparwr preifat.
Mae hynny, dwi'n meddwl, yn adlewyrchu'r angen, pragmataidd weithiau, i gaffael trwy’r sector preifat ar gyfer, fel dwi wedi cyfeirio ato fo'n barod, rhai gwasanaethau arbenigol, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd, ond yn dweud, fel egwyddor, mai opsiwn olaf ddylai hynny fod. Mi fyddai cael Llywodraeth i ymgorffori hynny mewn datganiad o egwyddorion caffael yn werthfawr iawn, iawn. A hefyd, mi fyddwn i am i'r datganiad gynnwys sylwadau am gyfyngu faint o gontracts sy'n cael eu rhoi i un darparwr, atal rhoi cytundebau lluosog ar draws nifer o fyrddau iechyd, atal cytundebau rhag cael eu rowlio drosodd yn awtomatig. Fel dwi'n dweud, trio cael rheolaeth ydy'r nod, a hynny, dwi'n gobeithio, yn adleisio egwyddorion sy'n bwysig i'r mwyafrif ohonom ni, os nad pawb ar y pwyllgor yma.