Finance Committee
- Dechrau
- 10:15
- Cyfraniadau
- 129
- Geiriau a lefarwyd
- 8,364
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 10:15.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croeso cynnes ichi i'r cyfarfod y bore yma o'r Pwyllgor Cyllid. Mae'n braf bod yma efo chi, ac mae gennym ni sesiwn efo'r Gweinidog cyllid y bore yma. Ond, i gychwyn, jest i adael ichi wybod ein bod ni yn mynd i fod yn darlledu yn fyw ar Senedd.tv, a bydd Cofnod y Trafodion yn cael ei gyhoeddi yn ôl yr arfer. Rydyn ni wedi derbyn ymddiheuriad gan Rhianon Passmore. Dydy hi'n methu bod efo ni, ac rydym ni'n gobeithio y bydd hi'n teimlo'n well yn fuan. Jest yn siecio, oes yna unrhyw fuddiannau i'w nodi? Na, dim byd i'w nodi. Grêt.
2. Papurau i'w nodi
Felly, mi wnawn ni symud ymlaen. Eitem 2 gennym ni y bore yma ydy'r papurau i'w nodi. Dwi'n meddwl mi wnawn ni eu nodi nhw, oni bai bod rhywun eisiau dweud rhywbeth amdanyn nhw. Na. Grêt.