Wyt ti eisiau i fi gychwyn? Gwnaf i gychwyn, os liciwch chi, gyda rhywfaint o wybodaeth am yr orielau dan sylw. Erbyn hyn—roedd yna waith a gafodd ei gomisiynu nôl yn 2020, a dweud y gwir, gan Rural Office Architecture ar ran y prosiect, i adnabod orielau posibl ar draws Cymru a allai fod yn gymwys ar gyfer y prosiect. Yr orielau dan sylw ydy: Storiel ym Mangor; Canolfan Celfyddydau Aberystwyth; Glyn Vivian yn Abertawe; Mostyn yn Llandudno; Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd; Oriel Davies, Drenewydd; Oriel Myrddin, Caerfyrddin; a Phlas Glyn y Weddw, Pen Llŷn; yn ogystal â Chanolfan Grefft Rhuthun.
Y criteria, efallai, sydd o ddiddordeb yn sicr i'r pwyllgor y bore yma—sut aethon ni ati i ddod at y casgliad yma. Wel, comisiynwyd y gwaith gan Rural Office i gysylltu gydag amryw orielau ledled Cymru, ond y criteria yn syml oedd yr angen i gael ystod eang daearyddol ar draws Cymru, i sicrhau bod y casgliadau ar gael ledled Cymru; y gallu, wedyn, i storio a chadw'r gwaith yn ddiogel; y gallu hefyd i gynnig cyfleoedd addysg a gwaith yn ymwneud â chymunedau; capasiti wedyn, capasiti'r staff curadurol a phrofiad i gyfrannu at gyd-greu; a beth hefyd oedd yn fforddiadwy—roedd hwnna yn gwestiwn; a hygyrchedd i bobl anabl. Ac fe flaenoriaethwyd gofodau y tu allan i Gaerdydd. Dyna oedd y prif ystyriaethau wrth fynd ati i ddewis yr orielau hynny. Wyt ti eisiau adio rhywbeth at hwnna, Kath, o ran—?
Hyd yma, mae yna oedi wedi bod ar y gwaith. Rŷn ni'n cydnabod hynny. Y prif reswm am hynny, dwi'n meddwl, oedd y pandemig yn sicr, achos roedd gwaith cafodd ei wneud ar asesu'r orielau— cafodd ei gyflwyno reit ar gychwyn y pandemig. Fe newidiodd pwyslais ein gwaith ni yn y cyfnod hynny. Fe wnaethom ni fel cyngor celfyddydau ganolbwyntio ar ryddhau y cultural recovery, y grants ac yn y blaen, ond fe aeth yr amgueddfa ymlaen gyda gwaith digidol, ac rwy'n siŵr gallet ti ddweud fwy am hwnna, Kath, yn y man. Bu hefyd newid mewn arweinyddiaeth o fewn y ddau gorff, yn arbennig. Ond mae'n rhaid inni gydnabod hefyd, yn dilyn y pandemig, gymrodd e beth amser i ailgydio yn yr impetus, ac rŷn ni'n cydnabod: fe gallan ni fod wedi comisiynu'r gwaith ar y GIS audits am yr orielau yn gynt. Dyna'r unig elfen ar hyn o bryd sydd tu ôl i'r schedule.
Ond, erbyn hyn, rŷn ni wedi llwyddo i gyhoeddi ac i benodi cadeirydd annibynnol. Mae gennym ni gadeirydd annibynnol bellach. Mae gennym ni swyddog prosiect ac mae gennym ni swyddog creadigol. Felly, mae yna dipyn o waith wedi ei wneud. Mae yna fwy i'w wneud. Ond yn dilyn gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog, rŷn ni hefyd wedi adnabod, dros y ddwy flynedd nesaf, beth sydd angen ei wneud o ran agenda gwaith. Mae yna dargedau pendant iddo fe. Mae cadeiryddion y tri chorff wedi cwrdd. Rŷn ni'n cryfhau y grŵp prosiect o ran craffu ac o ran rheoleiddio. Felly, mae yna dipyn o waith wedi'i wneud ac mae yna dipyn o waith i'w wneud eto. Ond yn hapus iawn i dderbyn unrhyw gwestiynau ar hynny.