Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
- Dechrau
- 09:30
- Cyfraniadau
- 180
- Geiriau a lefarwyd
- 9,277
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:30.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da a chroeso nôl. Dyma'r cyfarfod cyntaf ar ôl yr haf o'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. A gaf i ofyn a oes gan unrhyw Aelodau fuddiannau i'w datgan cyn i ni edrych ar y papurau i'w nodi? Dwi ddim yn gweld bod, felly fe wnawn ni symud yn syth at eitem 2, sef papurau i'w nodi.
2. Papurau i'w nodi
Mae gennym ni nifer o bapurau sydd wedi dod mewn dros yr haf, o eitem 2.1 yn eich papurau hyd at eitem 2.14. Efallai fydd rhai o ddiddordeb arbennig i'r pwyllgor. Mae eitem 2.6 gan Gymdeithas yr Iaith am leoliad gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol amenedigol. Mae 2.8 yn ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru, 2.9 am ddyfodol newydd ar gyfer darlledu a chyfathrebu yng Nghymru, a 2.13 am newyddiaduraeth er budd y cyhoedd. A ydy'r Aelodau yn fodlon i ni nodi'r papurau hyn? Dwi'n gweld eich bod chi.