Finance Committee
- Dechrau
- 09:32
- Cyfraniadau
- 186
- Geiriau a lefarwyd
- 10,807
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:32.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da a chroeso i'r cyfarfod yma o'r Pwyllgor Cyllid. Mae'n braf eich gweld chi i gyd yma y bore yma. Mae'r cyfarfod yma'n cael ei ddarlledu ar Senedd.tv a bydd Cofnod o'r Trafodion yn cael ei gyhoeddi yn ôl yr arfer. Rydyn ni wedi derbyn ymddiheuriad gan Rhianon Passmore. Dydy hi methu bod efo ni, ond croeso cynnes i Alun Davies yn ei lle hi. Croeso i ti, Alun. A gaf i ofyn a oes gan unrhyw un unrhyw fuddiannau i'w nodi? Mi fyddai eu nodi nhw yn ystod y cyfarfod yn iawn hefyd. Rydyn ni'n disgwyl Mike Hedges. Mi wnaiff o ymuno efo ni ar-lein. Mae yna broblem draffig wedi bod, felly bydd o'n ymuno efo ni ychydig yn hwyrach pan fydd o yn ei swyddfa.
2. Papurau i'w nodi
Fe wnawn ni symud ymlaen, felly, i'r eitem gyntaf, sef i nodi'r papurau sydd gennym ni o'n blaenau ni. Ydy pawb yn hapus i nodi'r rheini? Ie. Gwych. Felly, nodwyd y rheini. Felly fe wnawn ni symud ymlaen.