Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee
- Dechrau
- 09:31
- Cyfraniadau
- 322
- Geiriau a lefarwyd
- 22,221
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:31.
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da i chi i gyd. Croeso i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith. Croeso i Aelodau i'r cyfarfod. Mae'r cyfarfod yn cael ei gynnal mewn fformat hybrid, wrth gwrs, ac, ar wahân i addasiadau yn ymwneud â chynnal y trafodion mewn fformat hybrid, mae'r holl ofynion eraill o ran y Rheolau Sefydlog yn aros yn eu lle. Mae eitemau cyhoeddus y cyfarfod yma'n cael eu darlledu'n fyw ar Senedd.tv, ac mi fydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn ôl yr arfer. Mae'n gyfarfod dwyieithog, felly mae yna gyfieithu ar gael, wrth gwrs, o'r Gymraeg i'r Saesneg. Ond, cyn cychwyn, gaf i ofyn a oes gan unrhyw Aelodau unrhyw fuddiannau i'w datgan? Na, dim byd. Dyna ni, felly. Diolch yn fawr.
2. Ansawdd dŵr - Sesiwn dystiolaeth gyda Dwr Cymru Welsh Water
Awn ni ymlaen at yr ail eitem. Y bore yma, wrth gwrs, byddwn ni'n cynnal sesiwn graffu gyda Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ofwat ar ansawdd dŵr. Mae'r panel cyntaf o'n blaenau ni; croeso cynnes i gynrychiolwyr Dŵr Cymru. Mae Peter Perry yma, sy'n brif swyddog gweithredol Dŵr Cymru, Mike Davis, prif swyddog ariannol, a Steve Wilson, sy'n rheolwr gyfarwyddwr gwasanaethau dŵr gwastraff. Croeso cynnes i'r tri ohonoch chi. Rhyw 50 munud sydd gyda ni, felly bydd yn rhaid inni i gyd, dwi'n meddwl, fod yn weddol fach o gryno, ond trio bod mor gynhwysfawr ag y gallwn ni wrth ateb y cwestiynau. Awn ni'n syth i gwestiynau hefyd, er mwyn inni gael cyfro cymaint o feysydd ag y gallwn ni. Gwnaf i wahodd Janet Finch-Saunders i gychwyn.