Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee
- Dechrau
- 09:31
- Cyfraniadau
- 512
- Geiriau a lefarwyd
- 34,993
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:31.
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da a chroeso i chi i gyd i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yma yn Senedd Cymru. Gaf i groesawu yn arbennig Julie Morgan, sydd yn ymuno â ni am y tro cyntaf fel aelod o'r pwyllgor? Croeso, Julie.
Mae'r cyfarfod hwn, wrth gwrs, yn cael ei gynnal mewn fformat hybrid ac, ar wahân i addasiadau yn ymwneud â chynnal y trafodion mewn fformat hybrid, mae holl ofynion eraill y Rheolau Sefydlog yn aros yn eu lle. Mae eitemau cyhoeddus y cyfarfod yma yn cael eu darlledu'n fyw ar Senedd.tv ac mi fydd Cofnod o'r Trafodion, wrth gwrs, yn cael ei gyhoeddi yn ôl yr arfer. Mae'r cyfarfod yn un dwyieithog ac mae yna gyfieithu, felly, ar gael—cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg. Ond cyn inni gychwyn, gaf i ofyn a oes gan unrhyw un unrhyw fuddiannau i'w datgan? Dim byd. Dyna ni. Iawn. Ocê. Diolch yn fawr iawn.
2. Adfer safleoedd glo brig - sesiwn dystiolaeth 4
Awn ni ymlaen, felly, at eitem gyntaf y cyfarfod. Wrth gwrs, y bore yma rŷn ni'n parhau i gymryd tystiolaeth mewn perthynas ag adfer safleoedd glo brig, a'r ffocws, wrth gwrs, ar safle Ffos-y-frân yn enwedig, ond yn cynnwys mannau eraill yng Nghymru hefyd. Ac rŷn ni'n mynd i glywed gan grwpiau gweithredu lleol sydd yn ymgyrchu dros adfer safleoedd yn ein cymunedau ni yn gyntaf. Felly, mae'n bleser gen i estyn croeso cynnes i'r tystion sy'n ymuno â ni ar gyfer y sesiwn gyntaf yma, sef Alyson a Chris Austin o United Valleys Action Group, Merthyr Tudful, a Sue ac Owen Jordan, sy'n gyn-aelodau o'r Cross-Valleys Group yn Abertawe. Croeso cynnes iawn i'r pedwar ohonoch chi.