Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
- Dechrau
- 09:32
- Cyfraniadau
- 182
- Geiriau a lefarwyd
- 10,696
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:32.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da. Croeso i’r Aelodau i’r cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Cyn inni ddechrau, hoffwn i achub ar y cyfle hwn i gofnodi diolch y pwyllgor i Llyr Gruffydd am ei gyfraniad i’r pwyllgor er iddo ymuno ym mis Gorffennaf y llynedd, ac rydym ni’n dymuno’n dda iddo fe gyda’r pwyllgor arall y mae arno fe. Rwy’n gwybod yn barod ein bod ni wedi diolch i Tom Giffard ac wedi croesawu ein haelodau newydd. Hoffwn i hefyd ddiolch i Heledd Fychan am gadeirio’r pwyllgor diwethaf pan oeddwn i’n absennol gyda COVID ac i’w chroesawu hi nôl yn ffurfiol i’r pwyllgor. Oes gan unrhyw Aelodau fuddiannau i’w datgan? Dwi ddim yn gweld bod yna, felly fe wnawn ni symud yn syth ymlaen at eitem 2.