Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
- Dechrau
- 09:30
- Cyfraniadau
- 312
- Geiriau a lefarwyd
- 16,332
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:30.
2. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da. Hoffwn i groesawu'r Aelodau i'r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Hoffwn nodi ymddiheuriadau gan Alun Davies a Heledd Fychan, a chroesawu Siân Gwenllian a fydd yn dirprwyo ar ran Heledd Fychan gyda ni y bore yma. Croeso mawr, Siân. Oes gan unrhyw Aelod fuddiannau i'w datgan? Dwi ddim yn gweld bod, felly, symudwn ni'n syth ymlaen.
3. Effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon: Sesiwn dystiolaeth gyda Chwaraeon Cymru (4)
Byddwn ni'n cymryd tystiolaeth heddiw ar gyfer ein hymchwiliad ar effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon, ac yn gyntaf, mae gennym ni sesiwn dystiolaeth gyda Chwaraeon Cymru. Fe wnaf i ofyn i'n tystion i gyflwyno'u hunain ar gyfer y record.