Os gwnaf i ddechrau gydag Access to Work, pan wnaethon ni ymchwil yn 2022, roedd e'n cael ei grybwyll gan rai o'r bobl roeddem ni'n siarad â nhw, a'i ganmol. Hynny yw, roedd y bobl oedd yn cael mynediad yn gweld eu bod nhw'n gallu cael budd allan ohono fe. Mae'n gallu gweithio'n dda. Gwnes i siarad gyda dau fusnes, a doedden nhw ddim wedi profi hyn eu hunain, ond wedi clywed gan fusnesau eraill a oedd wedi cael cefnogaeth i dalu am dacsi i ddod â rhywun i'r gwaith. Efallai fod hwn yn codi cwestiynau am drafnidiaeth gyhoeddus, ond roedd y gefnogaeth yna wedi galluogi rhywun, mewn dau achos, i gyrraedd y gweithle.
Ond beth wnes i glywed sawl gwaith—anecdotaidd, ond sawl gwaith—oedd am y 26 wythnos, so mae pobl yn gorfod aros 26 wythnos i ffeindio mas os ydyn nhw'n gallu cael y gefnogaeth. A'r broblem yw, os yw rhywun yn mynd am swydd, ac wedyn angen cefnogaeth i wneud rhai o'r adjustments sydd eu hangen, ond maen nhw'n dweud, 'Mae'n rhaid i chi aros 26 wythnos i ffeindio mas os ŷch chi'n gallu cael y gefnogaeth yna neu beidio', mae hynny, wrth gwrs, yn creu barrier.
Felly, yn sicr, mae'n rhaglen sydd ag elfennau da, ond mae angen gwella o ran cyflymu'r broses o allu cael cefnogaeth. Dwi'n meddwl ein bod ni'n mynd i siarad, efallai, am brentisiaethau wedyn, ond pan fyddaf i'n meddwl am brentisiaethau yn benodol, mae rhai prentisiaethau'n gallu bod yn fyrdymor iawn. So, pan fyddwn ni'n meddwl am gael mynediad at gefnogaeth yn gyflym, mae hynny'n un ardal benodol lle mae gwir angen edrych ar hynny.
O ran Disability Confident, dwi wedi clywed pethau cymysg. Efallai fod rhai yn meddwl nad oes digon i lefel 1 a 2 o ran beth ydy hynny wir yn ei olygu i gyrraedd lefel 1 a 2. Ond wedyn, pan fydd hi'n dod at lefel 3, dwi wedi clywed gan rai busnesau bach bod yna ddiffyg cefnogaeth i'w cael nhw o lefel 2 i lefel 3. Dwi wedi cyffwrdd arno fe yn barod, ond i sawl busnes bach, mae amser a chapasiti yn broblem. Bydd rhai busnesau sy'n gwneud lot o bethau da yn barod, ac efallai hyd yn oed yn gwneud lot o bethau mae lefel 3 yn gofyn amdanyn nhw, ond does dim capasiti nac arbenigedd, a dweud y gwir, i allu gwneud yr holl ffurflenni fel rhai o'r internal strategies wedi'u sgwennu lan sydd eu hangen er mwyn cyrraedd y lefel 3 yna.
Ond efallai fod yna gyfle yn fan hyn. Os oes busnesau sy'n moyn mynd ar lefel 1, yn moyn mynd ar lefel 2 ac sydd wir yn moyn cyrraedd lefel 3, wel mae gyda ni target audience yn fanna o ran sut ydyn ni'n rhoi'r gefnogaeth benodol iddyn nhw i gyrraedd a chadw'r lefel 3 yna. Felly, cymysg, dwi'n meddwl, yw'r teimladau tuag at hynny, ond efallai fod cyfle o ran ei wella fe.