Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
- Dechrau
- 09:30
- Cyfraniadau
- 175
- Geiriau a lefarwyd
- 12,799
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:30.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da. Hoffwn groesawu’r Aelodau i’r cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Dŷn ni wedi derbyn ymddiheuriadau y bore yma gan Alun Davies. Oes gan unrhyw Aelodau fuddiannau i’w datgan? Dwi ddim yn gweld bod rhai, felly fe wnawn ni symud yn syth ymlaen.
2. Effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol (10)
Dŷn ni’n falch iawn y bore yma ein bod ni’n mynd i fod yn clywed gan Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. Bydd hyn yn dod â’n tystiolaeth ni ar effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon i ben. Dŷn ni’n edrych ymlaen yn fawr at y dystiolaeth y bore yma. Fe wnaf i ofyn i’r Gweinidog gyflwyno pawb arall sydd gyda fe ar gyfer y Record.