Dwi'n credu ei fod e'n bwysig i ni fod yn glir amboutu extra staff. So, roedd gyda ni ddau aelod o staff a chawson ni ddau aelod o staff newydd yn lle'r ddau aelod o staff yna. So, mewn ffordd, hanner aelod o staff ychwanegol rŷn ni wedi'i gael yn y flwyddyn ddiwethaf. Dwi'n credu ei fod e'n bwysig i ni fod yn glir amboutu hwnna. Yn amlwg, er hynny, rŷn ni wedi cael dau ddirprwy ychwanegol, ac mae hwnna'n dipyn o extra capacity sydd gyda ni, ond hefyd mae eisiau pwysleisio taw dau ddiwrnod yr wythnos mae'r dirprwyon yna'n ei wneud. Felly, mae dau ddiwrnod yr wythnos yr un gyda nhw, ac dyw fy niwrnodau i ddim wedi cael eu hymestyn, so bydd fy rhai i, gobeithio, yn mynd lawr o beth maen nhw wedi bod, efallai, dros y 12 mis diwethaf, yn ôl y contract ta beth. So, dwi jest eisiau bod yn glir amboutu hwnna. Ac fel roeddwn i'n dweud hefyd, achos roedd angen yr adnoddau ychwanegol o gael y dirprwyon yn eu lle 12 mis yn ôl, mae gyda ni bach o ddala lan i wneud, achos dŷn ni ddim wedi bod â'r capasiti i droi pethau drosodd yn y ffordd fel byddem ni wedi licio ei wneud yn y 12 mis diwethaf, so mae eisiau i ni gadw hwnna mewn golwg.
O ran adnoddau ychwanegol, bydden ni'n hoffi cael mwy o adnoddau o fewn y secretariat fel bod gyda ni bobl gyson o fewn y secretariat sy'n gweithio ar hwnna, ac un o'r pethau, efallai, byddai o fudd mawr yw cael rhywun sydd gyda chymwysterau cyfreithiol o fewn y secretariat fel bod gyda ni'r adnoddau yna'n fewnol, achos, yn y 12 mis diwethaf, ni wedi gorfod mynd tu allan, ac mae hwnna'n golygu deilio â rheolau caffael, amser, dŷch chi'n gorfod dysgu'r person yna o'r dechrau fel mae'n systemau ni'n gweithio ac yn y blaen. Felly, mae fe'n fantais fawr i fod â'r person yna, dwi'n meddwl, neu'r bobl yna, o fewn y tîm.
Beth rŷn ni wedi llwyddo ei gael, wrth gwrs, yw pobl PhD, sydd wedi bod yn helpu. Maen nhw wedi bod yn andros o ddefnyddiol i ni fel tîm, ond yn amlwg maen nhw gyda ni am gyfnod, tri mis, efallai chwech mis—fel mae Rhys gyda ni ar hyn o bryd am chwech mis—yn rhan amser. Eto, mae'n rhywbeth dros dro; maen nhw'n dysgu ein systemau ni, dysgu sut dŷn ni'n gweithio, ac wedyn maen nhw'n gadael. Felly, dwi'n credu byddai yna fantais fawr o gael rhywun mwy penodol. Felly, os ydych chi'n gofyn a yw'n ddigonol, mae'n anodd iawn i fod yn bendant iawn amboutu hynna ar hyn o bryd, achos mae eisiau i ni weld yn gyntaf faint rŷn ni'n gallu ymdopi ag ef nawr, gyda Lynda ac Anna gyda ni, faint o wahaniaeth mae hwnna'n ei wneud. Ond dwi'n credu efallai mewn amboutu chwech mis byddaf i'n gallu bod bach yn fwy pendant amboutu hynna wedyn, pan fydden ni'n gwybod beth rŷn ni'n gallu ei gyflawni gyda'r tîm sydd gyda ni nawr a beth sydd eisiau arnom ni yn nes ymlaen.
Dwi hefyd yn ofidus, efallai, wrth i ni fynd ymlaen i'r corff mwy parhaol, efallai bydd ein gwaith ni'n cynyddu, achos rŷn ni wedi gweld cynnydd yn nifer y ceisiadau sy'n dod mewn, a dwi'n credu, wrth i'r rôl gael ei amlygu, wrth i bobl ddod i wybod mwy am y rôl a beth dŷn ni'n ei wneud, dŷn ni wedi gweld cynnydd yn y gwaith hefyd. So, mae eisiau i ni fod yn wyliadwrus: os yw mwy o waith yn dod i mewn, mae hwnna'n golygu mwy o waith i ddelio gyda'r ceisiadau yna hefyd. Felly, mae'n anodd iawn i ddweud yn bendant beth yw'r sefyllfa, ond byddwn i'n tybio bod yn dal i fod angen mwy o adnoddau arnom ni. Os ydych chi'n ei gymharu fe gydag adnoddau cyrff tebyg—er, dwi'n gwybod, dydyn nhw ddim yn debyg achos mae eu pwerau nhw'n wahanol—mae'r cyllid sydd gyda ni'n dra gwahanol i'r rheini.