Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee
- Dechrau
- 09:00
- Cyfraniadau
- 374
- Geiriau a lefarwyd
- 27,083
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:00.
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da i bawb a chroeso cynnes i chi gyd i Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith Senedd Cymru. Mae hwn yn gyfarfod sy’n cael ei gynnal mewn fformat hybrid, ond hyd y gwelaf i mae pawb yn bresennol yn yr ystafell y bore yma. Ar wahân i addasiadau yn ymwneud â chynnal y trafodion mewn fformat hybrid, mae’r holl ofynion eraill o ran y Rheolau Sefydlog yn aros yn eu lle. Mi fydd eitemau cyhoeddus y cyfarfod yma’n cael eu darlledu, wrth gwrs, ar Senedd.tv, ac mi fydd yna Gofnod o’r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn ôl yr arfer. Nawr, mae hwn yn gyfarfod dwyieithog, felly mae yna gyfieithu ar y pryd ar gael o’r Gymraeg i’r Saesneg. Os bydd larwm tân yn canu, yna mi ddylai Aelodau ac unrhyw dystion adael yr ystafell trwy’r allanfeydd tân a dilyn cyfarwyddiadau gan y tywyswyr a staff. Dŷn ni ddim yn disgwyl ymarfer tân, felly bydd angen inni ymateb yn briodol i hynny. Gaf i ofyn hefyd i Aelodau sicrhau bod eu holl ddyfeisiadau symudol wedi eu rhoi yn y modd tawel, wedi eu distewi? A gaf i ofyn hefyd a oes gan unrhyw un unrhyw fuddiannau i’w datgan?