Ocê, y cyfrwng Cymraeg. Ocê—dwi'n hapus i fynd ymlaen am hynny am oes, dwi'n meddwl. Mae gennyn ni broblem efo’n hysgolion Cymraeg, wrth gwrs, yn enwedig y tu hwnt i'r gogledd-orllewin—ac mi wnaf i nodi’r gogledd-orllewin ychydig yn wahanol—lle does yna ddim darpariaeth ôl-16 addas ar gyfer y rheini sydd eisiau mynd i addysg bellach. Ydy, mae'r sefyllfa wedi gwella yn arw, ond yr unig le, yr unig sefydliadau ar hyn o bryd sydd yn cyfrannu tuag at dargedau’r Llywodraeth erbyn 2050 ydy'r ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae'r dystiolaeth rydych chi wedi'i derbyn, er enghraifft gan swyddfa’r comisiynydd, yn adlewyrchu hynny yn reit glir. Beth sydd gennym ni mewn ysgolion Cymraeg ac ysgolion efo chweched dosbarth llai ydy hyn a hyn o bynciau y gallan nhw eu dewis, hyn a hyn o ddisgyblion sydd wir yn awyddus i wneud y pynciau yna, ac os ydyn nhw eisiau edrych ar ddarpariaeth fwy eang, mae o’n anodd o fewn ysgolion i gynnig hynny. Dydy’r cyllid ddim yna. Mae yna ddiswyddiadau’n digwydd ar hyn o bryd. Dwi ddim eisiau enwi ysgolion, ond maen nhw'n edrych i gael gwared o bynciau penodol, megis busnes, er enghraifft, oherwydd dydy’r galw ddim yna neu dydy’r cyllid ddim yna i gynnal y ddarpariaeth.
Felly, mae gennyn ni chweched dosbarth llai, ac mae gennyn ni broblem fawr o ran trafnidiaeth yn ogystal. Rydych chi wedi clywed hyn sawl gwaith. Mewn sawl awdurdod, mae yna gwestiwn ynglŷn ag ariannu ôl-16 o ran sefydliadau addysg. Mae yna un awdurdod yn y gogledd lle mae'r colegau, i ddweud y gwir, yn talu am drafnidiaeth, neu mae'r colegau wedi darparu canolfannau eang sy'n apelio i sawl disgybl ifanc yng nghanol tref. Felly, maen nhw'n hygyrch iawn, iawn, lle mae'r rheini sydd yn awyddus i fynd i'r ysgol gyfrwng Cymraeg i barhau gyda'u hastudiaethau yn gorfod dal bws i ganol y dref ac wedyn cael bws arall allan i'r maestrefi, lle bynnag mae'r ysgolion. Felly, mae yna issue o ran trafnidiaeth yn y fan yna. Ac, wrth gwrs, mae hwnna'n issue hefyd sy'n cael ei adlewyrchu yn eang, yn ogystal. Felly, un peth mae galw i Lywodraeth ei wneud i sicrhau ecwiti ydy bod trafnidiaeth i'r ddarpariaeth fwyaf addas, ym mha bynnag iaith, yn cael ei chynnig, a hynny'n rhad ac am ddim. Ar hyn o bryd, mae o'n sefyllfa amwys iawn o awdurdod i awdurdod.
Felly, o ran y Gymraeg, mae gennym ni broblem hefyd yn y colegau addysg bellach, lle mae yna ddarlithwyr dwyieithog o safon uchel iawn, iawn, ac yn gallu darparu gwersi a chyrsiau o safon uchel, ond diwedd y gân ydy'r geiniog. Mae'r colegau addysg bellach yma yn gwmnïau preifat i bob pwrpas, ac er eu bod nhw'n dweud, ‘Mi wnawn ni gynnig rhywbeth yn ddwyieithog’, yn aml iawn, Saesneg ydy'r cyfrwng efo ambell derm yn y Gymraeg yn cael ei daflu i'r pair, felly. Dwi ddim yn gwybod os ydy model rhannau o’r gogledd-orllewin, lle maen nhw wedi cau'r ysgolion â chweched a dod â phawb i mewn i ganolfannau, yn fodd o weithredu. Yn sicr, mae yna fwy o Gymraeg yn y colegau hynny, a dwi'n meddwl bod hynny'n beth da iawn. Ond, o ran y sefyllfa sydd gennym ni, dydy’r chweched dosbarth ddim am fod yn enfawr, ac mae angen i ni sicrhau bod yna gyfleoedd, ar sawl lefel, ym mha bynnag iaith.