Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee
- Dechrau
- 09:30
- Cyfraniadau
- 153
- Geiriau a lefarwyd
- 14,921
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:30.
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da i chi i gyd. Croeso i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith. Mae hwn yn gyfarfod sy'n cael ei gynnal mewn fformat hybrid, ac mi fydd eitemau cyhoeddus y cyfarfod yn cael eu darlledu ar Senedd.tv. Bydd cofnod o'r trafodion hefyd yn cael ei gyhoeddi yn ôl yr arfer. Mae'n gyfarfod dwyieithog, felly mae yna gyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg ar gael i'r rhai sydd angen hynny. Os bydd yna larwm tân yn canu—a dŷn ni ddim yn disgwyl i hynny ddigwydd—dylai Aelodau a thystion adael yr ystafell drwy'r allanfeydd tân a dilyn cyfarwyddiadau gan y tywyswyr a'r staff. A gaf i ofyn hefyd i bawb sicrhau, os oes gennych chi unrhyw ddyfeisiadau symudol, eu bod nhw wedi tawelu fel eu bod nhw ddim yn tarfu ar y cyfarfod? Cyn i ni fwrw iddi, gaf i ofyn os oes gan unrhyw un unrhyw fuddiannau i'w datgan? Nac oes. Diolch yn fawr iawn.
2. Craffu blynyddol ar waith Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru
Y bore yma, wrth symud ymlaen i'r eitem nesaf, byddwn ni'n cynnal ein sesiwn graffu olaf yn y Senedd yma gyda Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru. Er y byddwn ni'n canolbwyntio'n bennaf ar yr adroddiad blynyddol rŷch chi wedi'i gyhoeddi ar gyfer 2025, mi fydd yna gyfle efallai i ni fynd yn ehangach ac i drafod y gwaith parhaus rŷch chi'n ei wneud, ac efallai rhai o'ch cynlluniau chi am y dyfodol fel comisiwn. Felly, croeso, yn gyntaf, i Dr David Clubb, cadeirydd y comisiwn; hefyd Dr Jenifer Baxter, sydd yn ddirprwy gadeirydd; a Helen Armstrong hefyd, sydd yn un o'r comisiynwyr. Croeso cynnes i'r tri ohonoch chi. Mae gyda ni awr a hanner, ond mae gyda ni lot fawr o bethau rŷn ni eisiau eu cyfro gyda chi hefyd, felly fe drïwn ni wneud cymaint ag y gallwn ni. Mi wnaf i ofyn i Janet gychwyn.