Diolch yn fawr, Cadeirydd. Cyn siarad i'r gwelliant, hoffwn i ddiolch yn gyntaf i'r holl staff—y clercod, yr ymchwilwyr, y tîm cyfreithiol, rhanddeiliaid, a Niamh Salkeld yng ngrŵp Plaid Cymru am eu cymorth gyda'r Bil yma. Hoffwn i hefyd ddiolch i Mark Isherwood unwaith eto am gyflwyno'r Bil blaengar hwn. Mae'n ddarn mor bwysig o ddeddfwriaeth, ac fel rwyf i wedi dweud o'r blaen ar y cofnod, ac fel rŷn ni fel pwyllgor wedi mynegi, mae Plaid Cymru yn cefnogi egwyddorion craidd y Bil yma'n llwyr.
Mae'n gwbl glir, dwi'n meddwl, o ran y dystiolaeth gawson ni fel pwyllgor, fod arwyddwyr byddar yn cael eu hatal rhag defnyddio'u hiaith eu hunain ac felly yn cael eu hanfanteisio mewn meysydd hanfodol fel addysg, gofal iechyd, cyflogaeth a bywyd cyhoeddus. Felly, dwi'n gobeithio y bydd modd i ni basio'r Bil hwn nawr gyda'r gwelliannau yma er mwyn ei gryfhau a gwneud yn siŵr bod pobl fyddar yn cael tegwch, cydraddoldeb a chynhwysiant, ac felly ein bod ni'n rhoi cydnabyddiaeth briodol i Iaith Arwyddion Prydain fel iaith yng Nghymru. Mae'r Bil yma yn gam cyntaf mawr a phwysig, dwi'n meddwl, at sicrhau hynny.
Felly, o ran gwelliant 16, mae hyn yn ceisio sicrhau bod y strategaeth genedlaethol ar gyfer iaith arwyddion Prydain yn ymarferol ac yn ddefnyddiol hefyd i arwyddwyr BSL byddar ledled Cymru. Mae'n ffocysu, fel y clywon ni gan yr Aelod, ar ddau bwynt allweddol, ac roedd yn dda gen i glywed y gefnogaeth i'r pwynt cyntaf, sef y byddai'n ei gwneud yn ofynnol i'r strategaeth gynnwys camau i gasglu gwybodaeth am ac i fonitro sut mae iaith arwyddion Prydain yn cael ei defnyddio go-iawn ar lawr gwlad, achos, fel clywon ni, ar hyn o bryd, ac fel clywon ni fel pwyllgor, does gennym ni ddim darlun clir o ble a sut mae pobl yn defnyddio BSL. Heb y wybodaeth honno, mae'n anodd gwybod beth sy'n gweithio a ble mae angen mwy o gefnogaeth.
O ran yr ail ran yna i'r gwelliant, y nod oedd sicrhau bod y strategaeth yn nodi sut gall pobl ddysgu a defnyddio BSL yn y gweithle, achos, i lawer o arwyddwyr BSL byddar, mae'r gweithle yn parhau i fod yn rhwystr sylweddol o ran cyfathrebu, o ran cynhwysiant ac o ran cyfleoedd gyrfa, a dwi'n meddwl bod hynny'n bwynt allweddol. Drwy greu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio BSL yn y gweithle, gallwn ni helpu, wrth gwrs, i wneud gweithleoedd Cymru yn fwy cynhwysol i bawb a sicrhau bod gan arwyddwyr BSL byddar fodd i fynd ymlaen yn eu gyrfaoedd nhw hefyd.
Felly, yn ei hanfod, mae'r gwelliant yn ceisio cryfhau'r strategaeth genedlaethol a'i gwneud hi'n fwy ymarferol, yn cysylltu ag allbynnau go-iawn drwy gasglu gwell gwybodaeth a chefnogi'r defnydd o BSL ym mywydau beunyddiol pobl ac yn eu gwaith. Ond o ran yr ymateb rwyf wedi'i gael gan yr Aelod y bore yma, byddwn i'n falch iawn o weithio gyda'n gilydd er mwyn sicrhau ein bod ni'n gallu mynd at Gyfnod 3, efallai, wrth rannu'r gwelliannau, ond, ar hyn o bryd, dwi'n dal yn meddwl bod hyn yn bwysig ac yn elfen bwysig y dylid ei ystyried yn y Bil, felly byddwn i'n dal i fod eisiau symud y gwelliant hwn.