Diolch, Llywydd. Cyd-Aelodau o'r Senedd, rwy'n codi heddiw i nodi adeg hanesyddol ac arwyddocaol ym mywyd y Siambr hwn ac, yn wir, y genedl hon. Hoffwn gofnodi, yn gyntaf oll, fy niolch i'r Llywydd sy'n gadael, Elin Jones, am y ffordd y gwnaeth gyflawni trafodion y Senedd hon dros y 10 mlynedd diwethaf. Fe wnaethoch chi waith gwbl ardderchog a gwasanaethu ein cenedl gydag urddas, fel y gwnaeth y Dirprwy Lywydd, David Rees, a wasanaethodd mor fedrus ochr yn ochr â chi.
Hoffwn gofnodi hefyd fy niolch i'r cyn-Brif Weinidog am ei gwasanaeth i'n cenedl. Fe wnaethom ni groesi cleddyfau bob un wythnos ac, a dweud y gwir, yn ystod yr ymgyrch etholiadol, bob un dydd, ond mae gennyf y parch mwyaf tuag ati fel unigolyn ac rwy'n gwybod ei bod hi'n caru'r wlad hon ac wedi ei gwasanaethu hyd eithaf ei gallu.
Ac, wrth gwrs, mae'n ddyletswydd arnaf i gynnig fy llongyfarchiadau diffuant ac o'r galon i Rhun ap Iorwerth ar ddod yn enwebai'r Senedd i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru. Arwain eich gwlad yw'r anrhydedd uchaf mewn bywyd cenedlaethol a chyhoeddus, ac, waeth beth fo'n gwahaniaethau gwleidyddol, rwy'n dymuno'n dda i chi yn bersonol wrth i chi gymryd y fantell enfawr hon a chymryd y fantell hon o gyfrifoldeb. Rwyf hefyd yn llongyfarch ei blaid am ganlyniad etholiad aruthrol, oherwydd mae dod yn blaid fwyaf y Senedd hon am y tro cyntaf yn gyflawniad enfawr ac ni ellir ei anwybyddu.
Hoffwn longyfarch pob un Aelod o'r Senedd hon ar gael ei ethol i wasanaethu ein cenedl a phobl Cymru. Ond, Prif Weinidog, byddwch yn gwbl sicr: mae gennych chi dasg enfawr o'ch blaen. Mae mis yr afiaith i chi a'ch plaid yn mynd i fod yn fyr. Er y gallai'r dathliadau yn rhengoedd Plaid Cymru barhau heno, mae'r realiti noeth yn aros amdanoch chi yn y bore: GIG nad yw'n gweithio fel y dylai, economi ddisymud nad yw'n tyfu fel y dylai, system addysg nad yw'n gwasanaethu ein pobl ifanc fel y dylai. Byddan nhw i gyd yn aros yn eich mewnflwch wrth i chi ddechrau'r swydd.
Ni phleidleisiodd pobl Cymru dros newid personél; fe wnaethon nhw bleidleisio dros newid canlyniadau. Nawr, o'r meinciau hyn, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn wynebu'r tymor hwn, wrth gwrs, gydag emosiynau cymysg. Rydym ni'n drist iawn ein bod wedi colli cydweithwyr gweithgar ac ymroddedig a wasanaethodd eu hetholwyr a sefydliad y Senedd hon gyda rhagoriaeth. Ond rydym ni hefyd wrth ein boddau o fod wedi perfformio'n well nag amcangyfrifon a disgwyliadau pesimistaidd bron pob pyndit a pholiwr yn y wlad hon, gan ein bod ni wedi dychwelyd saith Aelod gwych i'r Senedd hon. Ac rydym ni yma i hyrwyddo'r pethau sy'n annwyl i ni'r Ceidwadwyr Cymreig: Cymru fwy ffyniannus â threthi is, diwedd ar wastraff y Llywodraeth, a gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithlon ac effeithiol sy'n gweithio i bobl Cymru. Ac rwy'n addo i'r Prif Weinidog newydd y byddwn ni'n wrthblaid ddifrifol, gadarn a chyfrifol, ac mae'r cyfrifoldeb hwnnw yn dechrau heddiw drwy dynnu sylw at y bwlch amlwg rhwng rhethreg Plaid Cymru a'r realiti seneddol yr ydym ni wedi ei weld.