Economy, Energy and Connectivity Committee
- Dechrau
- 09:30
- Cyfraniadau
- 12
- Geiriau a lefarwyd
- 681
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:30.
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croeso i chi i gyd yma y bore yma. Gaf i estyn croeso i bawb i gyfarfod cyntaf Pwyllgor yr Economi, Ynni a Chysylltedd? Mae'n braf eich croesawu chi i gyd yma. Gaf i hefyd groesawu'r swyddogion sydd yma heddiw i gynorthwyo ac i'n cefnogi ni? Mae hwn yn gyfarfod cyhoeddus, wrth gwrs, ac yn cael ei ddarlledu yn fyw ar Senedd.tv, ac mi fydd yna Gofnod swyddogol ar gael wedyn o'r trafodion ar-lein. Mae o'n gyfarfod dwyieithog efo cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg. Oes yna unrhyw ymddiheuriadau? Dwi'n deall bod un Aelod am ymuno efo ni yn nes ymlaen. Dim byd arall. Oes yna unrhyw fuddiannau i'w datgan?
Just to say I am a member of Unite the Union, which is one of the unions we will be referring to later on in the meeting.