16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad
Diolch yn fawr am yr ateb yna, ac mae'n hen bryd i setliad cyfansoddiadol blêr Cymru gael ei ddatrys. Roedd Llywodraethau Llafur olynol yn fodlon gweld y mater yma'n cael ei ohirio droeon, ond mae'r diffyg gweithredu hwn wedi methu pobl a chymunedau Cymru…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad
3. Pa gamau mae'r Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i sefydlu comisiwn cenedlaethol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru? OQ64145
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Ers blynyddoedd, mae ffermwyr wedi bod yn dweud wrthyf i ei bod hi'n mynd yn fwyfwy anodd i wneud bywoliaeth. Dwi'n gobeithio y bydd pethau yn newid, wrth gwrs, rŵan, efo Llywodraeth newydd Plaid Cymru. Un peth yr hoffwn i ei godi o'r pryderon hynny ddaeth i…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth: Gwydnwch Seilwaith Allweddol
Rwy'n ddiolchgar am y datganiad heddiw, yn enwedig ynghylch ffordd liniaru'r M4, sy'n destun siarad mawr ymhlith fy etholwyr. Byddai pobl yn gwerthfawrogi unrhyw eglurhad pellach y gallech chi ei roi ar atebion posibl i'r tagfeydd a brofir o amgylch twnelau…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Drefnydd, a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ynglŷn ag argyfwng pensiynau Capita a'r effaith mae'n ei chael ar weithwyr a phobl sydd wedi ymddeol yng Nghymru? Dwi'n gwybod bod nifer o bobl wedi cael eu heffeithio ganddo drwy'r oedi cyn derbyn eu taliadau…
2 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Brif Weinidog, dros y chwe mis diwethaf, rydych chi'n gwybod fy mod wedi cael profiad personol iawn o feddyginiaeth frys ar ôl disgyn yng Nghasnewydd a rhwygo tendon yn fy mhen glin. Fe wnes i gael fy ngweld yn y royal Gwent, yn y Grange a wedyn cael…
12 Mai 2026 , Cyfarfod Llawn
Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8
Rhun ap Iorwerth.
4 Mawrth 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Y rhwydwaith rheilffyrdd
Onid oeddech chi'n gwrando pan ddywedais yn fy nghyfraniad yn gynharach na all fod yn ddatganoli llawn os na chewch y cyllid a'r addasiad i'r grant bloc?
4 Mawrth 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Y rhwydwaith rheilffyrdd
Y llynedd, gwnaeth yr Athro Mark Barry y pwynt, os nad oes ewyllys wleidyddol ar y naill ben i'r M4 i roi cyfrifoldeb llawn i Gymru am ei rhwydwaith rheilffyrdd, dylai Cymru fod â hawl i gronfa wedi'i chlustnodi o £2 biliwn i £3 biliwn dros y 15 mlynedd…
4 Mawrth 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Y rhwydwaith rheilffyrdd
Unwaith eto. Diolch, Dirprwy Lywydd. Am ddegawdau, mae rhwydwaith rheilffyrdd Cymru wedi dioddef tanfuddsoddiad cronig. Tra bod prosiectau enfawr wedi eu hariannu yn Llundain a thu hwnt, mae Cymru wedi gorfod aros: aros am drydaneiddio, aros am welliannau…
4 Mawrth 2026 , Cyfarfod Llawn
Enwebiad o dan Reol Sefydlog 10.5 ar gyfer penodi Archwilydd Cyffredinol Cymru
Mae'r pwyllgor yn credu’n gryf fod cynnal gwrandawiad cyn enwebu yn sicrhau bod yr ymgeisydd a nodwyd fel yr unigolyn mwyaf addas ar gyfer y rôl yn destun gwaith craffu agored a thryloyw. Yn ystod y gwrandawiad gyda Catherine, gwnaethom archwilio ei…
4 Mawrth 2026 , Cyfarfod Llawn
Enwebiad o dan Reol Sefydlog 10.5 ar gyfer penodi Archwilydd Cyffredinol Cymru
Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r archwilydd cyffredinol yn chwarae rhan hanfodol ym mywyd cyhoeddus Cymru. Maent yn sicrhau bod ein cyrff cyhoeddus yn rheoli cyllid yn effeithlon ac yn dryloyw, i'r safonau llywodraethu uchaf. Mae eu hannibyniaeth yn hanfodol i…
4 Mawrth 2026 , Cyfarfod Llawn
Enwebiad o dan Reol Sefydlog 10.5 ar gyfer penodi Archwilydd Cyffredinol Cymru
Diolch yn fawr. Penodiad y Goron yw Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn dilyn enwebiad gan y Senedd o dan adran 2 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. Fel y pwyllgor â chyfrifoldeb dirprwyedig dros oruchwylio trefniadau sy’n ymwneud â Swyddfa Archwilio…
4 Mawrth 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Rwy'n anghytuno â hynny, oherwydd yn amlwg, mae'r setliad llywodraeth leol—a bydd yn rhaid i lywodraeth leol gyflawni rhywfaint o hyn—yn eich dwylo chi. Rwy'n cymryd eich pwynt, ond nid wyf o reidrwydd yn cytuno ag ef. Bûm mewn digwyddiad y prynhawn yma gydag…
4 Mawrth 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Felly, dim eglurder i lywodraeth leol yno. Roedd y cyhoeddiad yn dal i fod yn brin o fanylion eraill hefyd, heblaw am adnoddau. Roedd y Prif Weinidog hefyd yn ei chael hi'n anodd esbonio beth fyddai hyn yn ei olygu yn ymarferol i bobl sy'n ceisio cael…
4 Mawrth 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Diolch, Lywydd. Ddechrau'r wythnos hon, cyhoeddodd y Prif Weinidog gynlluniau i gyflwyno cymorth yr un diwrnod ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru. Roedd yn honiad hyderus, o ystyried bod dros 500 o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd yn aros yn hirach na'r targed…
10 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Fe hoffwn i godi mater pryderus iawn sydd wedi dod i'm sylw. Mae'n ymwneud â sefydliad yn y trydydd sector sydd wedi gwneud cais am gyllid yn unol â rhaglen grant cydraddoldeb a chynhwysiant Llywodraeth Cymru. Fe gawson nhw addewid y bydden nhw'n cael clywed…
10 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad a fy nghwestiwn ar y cyfraniad aruthrol a wneir gan elusennau yng Nghymru at y sector gofal lliniarol. Ymwelais â Gofal Hosbis Dewi Sant yng Nghasnewydd yr wythnos diwethaf, lle cefais gyfle i gyfarfod â'r prif swyddog…
4 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Hoffwn adleisio a chytuno â'r hyn a ddywedodd John yn ei gwestiwn atodol. Rhaid gwarchod yr ardal SoDdGA. Mewn egwyddor, rwy'n cefnogi ynni adnewyddadwy ac mae'n elfen bwysig yn y frwydr yn erbyn yr argyfwng hinsawdd, ond fel y dywedodd Mike Webb o…
3 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cyllid (Rhif 2)
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, fe wnaethon ni edrych ar ddatblygiad pellach ym maes polisi trethiant eiddo. Fe wnaethon ni nodi bwriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno mansion tax yn Lloegr o 2028 ymlaen ar y rhan fwyaf o eiddo preswyl sydd yn werth dros £2…
3 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cyllid (Rhif 2)
Ar y dechrau, hoffem ni gofnodi ein cefnogaeth i egwyddor datganoli pwerau i osod cyfraddau treth incwm eiddo Cymru ar wahân. Rydym ni hefyd yn cydnabod y gall y symiau dan sylw fod yn gymedrol yng nghyd-destun cyllideb gyffredinol Cymru. Fodd bynnag, nid dim…
3 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cyllid (Rhif 2)
Diolch, Dirprwy Lywydd. Buaswn i'n licio gwneud ambell i sylw ar ran y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â'r memorandwm yma. Roedd y pwyllgor yn ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am ddarparu tystiolaeth am y memorandwm wrth i ni graffu ar y gyllideb derfynol…
3 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Hoffwn ganolbwyntio ar y contract deintyddol hwnnw, a chanlyniad o hynny, o'r hyn y gallaf ei weld, yw bod deintydd GIG hirsefydlog yn fy rhanbarth i newydd wneud y penderfyniad i fynd yn breifat. Fe wnaeth Crown Cottage Dental Care ym Medwas hysbysu'r holl…
3 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr am yr ateb yna.
3 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
3. Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau darpariaeth ddeintyddiaeth y GIG? OQ63807