12 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad ac, yn wir, am y briff y gwnaethoch chi ei roi i mi cyn heddiw. Mae'n rhaid i mi ddweud, fel y soniais wrthych chi yn ystod y sesiwn friffio a gawsom, fy mod i braidd yn siomedig gyda'r diffyg ymgysylltu sydd wedi bod ers…
12 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
A gaf i alw am nifer o ddatganiadau heddiw? Y cyntaf yw datganiad y mae ei angen gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am ymadawiad cyfarwyddwr cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae llawer o bobl yn fy etholaeth i…
6 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymateb Llywodraeth Cymru i gyllideb Llywodraeth y DU
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Onid yw'n syndod i chi nad yw Aelodau gogledd Cymru yn y Siambr hon yn unedig, ar bob ochr i'r Siambr, ynghylch yr angen am fuddsoddiad yng ngogledd Cymru, mewn pethau fel trydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, na chlywais yr…
6 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymateb Llywodraeth Cymru i gyllideb Llywodraeth y DU
Diolch yn fawr. Rwy'n meddwl fy mod yn cofio'r Ysgrifennydd Cabinet presennol dros gyllid yn gwneud ymrwymiad clir dros ddegawd yn ôl i wario arian ar ysbyty newydd sbon yn y Rhyl, sydd wedi'i anghofio'n llwyr a heb ei gyllidebu yng nghyllideb Llywodraeth…
6 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymateb Llywodraeth Cymru i gyllideb Llywodraeth y DU
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
5 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Trefnydd, a gaf i ofyn i chi am ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am wyddoniaeth ar y cyfle sydd ar gael i sefydlu arsyllfa genedlaethol yma yng Nghymru. Mae'n fater yr wyf wedi'i godi yn y Siambr yn y gorffennol, yn enwedig gyda'ch rhagflaenydd fel…
5 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Hoffwn innau hefyd gysylltu fy hun â'r sylwadau a'r galwadau a wnaed gan Hannah Blythyn. A gaf i ddychwelyd, fodd bynnag, os caf i, at GIG Cymru i Gyn-filwyr, gwasanaeth yr ydym ni'n falch iawn o'i gael yma yng Nghymru?…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Cyllideb Llywodraeth y DU
Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. A fyddech chi hefyd yn cytuno bod angen inni weld cydraddoldeb ariannol yng Nghymru: yn lle'r holl fuddsoddiad sy'n mynd i rai rhannau o Gymru, fod lleoedd fel gogledd Cymru, sydd wedi bod ar eu colled yn…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cymorth i farw
Diolch, James, a diolch am rannu'r stori sydd gennych am y teulu. Rwy'n gwybod bod hynny'n anodd i chi ei rannu, ac rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn rhoi cipolwg i ni ar eich profiad personol. Rwy'n credu mai un o'r heriau yma yw ein bod yn tybio bod llawer…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cymorth i farw
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar y pwynt hwnnw? Fe glywsom, mewn cryn fanylder ddoe, am y dulliau a ddefnyddir i gyflawni cymorth i farw yn rhai o'r gwledydd lle mae wedi ei gyfreithloni—nid yw honno'n farwolaeth braf, ychwaith. Mae llawer o bobl yn brwydro am…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cymorth i farw
Dyna fu'r profiad dramor ac mae hi bron yn sicr mai dyna fyddai'r profiad yma hefyd. Felly, beth yw'r ateb? Yr ateb, yn fyr, yw buddsoddi mewn gofal lliniarol, buddsoddi mewn gofal diwedd oes. Gwyddom fod Hospice UK wedi dweud wrthym eu bod yn wynebu argyfwng…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cymorth i farw
Hoffwn ddechrau drwy gydnabod bod cymorth i farw, neu gymorth hunanladdiad, gan fy mod yn credu bod hwnnw'n derm mwy cywir ar gyfer yr hyn a drafodwn, yn fater sensitif ac emosiynol iawn. Mae gan lawer ohonom deulu, ffrindiau ac anwyliaid a welsom yn dioddef…
22 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am les anifeiliaid heddiw, yn benodol mewn perthynas â lles cŵn a chanolfannau achub cŵn? Fel y bydd llawer o Aelodau yn gwybod, rwy'n berchennog balch milgi bach o'r enw Blue, sydd…
22 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
A gaf i groesawu eich ateb i'r cwestiwn a ofynnwyd gan John Griffiths? Yn wir, rydym ni i gyd yn bryderus, ac rydym ni eisiau gweld ateb i'r argyfwng hwn—ac mae'n argyfwng, yn ogystal â gwrthdaro—yn y dwyrain canol cyn gynted â phosibl. Mae'n bwysig, wrth…
16 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cynnig i sefydlu pwyllgor
O ystyried yr araith rydym newydd ei chlywed, rwy'n teimlo ei bod hi'n werth imi ymateb ar ran y Pwyllgor Busnes i ddweud mai bwriad y pwyllgor hwn, wrth gwrs, yw ystyried gweithrediad y Senedd yn y dyfodol yn y seithfed Senedd, ar ôl y set nesaf o…
16 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cynnig i sefydlu pwyllgor
Rwy'n cynnig.
16 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae arnaf ofn nad yw'r ateb hwnnw'n bodloni'r bobl yng Nghonwy a sir Ddinbych rwy'n eu cynrychioli. Mae disgwyl y bydd tua 30,000 o bobl ar draws y ddwy ardal awdurdod lleol yn cael eu hamddifadu o daliadau tanwydd y gaeaf…
16 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
6. Pa gamau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cymryd i liniaru’r effaith ar drigolion yng Nghonwy a sir Ddinbych yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu taliadau tanwydd y gaeaf? OQ61690
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Trefnydd, mae'n Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod yr wythnos hon, ac mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi, gan gynnwys, Melanie Gizzi, awdur yn fy etholaeth i, i glywed am eu profiadau o ran colli babi. Un o'r pethau maen nhw wedi mynegi pryderon yn ei…
9 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Llenwi’r bwlch: Yr achos dros hyfforddi deintyddion ym Mangor
A gaf innau hefyd gefnogi'r galwadau am ysgol ddeintyddiaeth yng ngogledd Cymru? Mae'n gwbl amlwg fod prinder deintyddion ledled y wlad. Gwelais ddeintyddion yn fy etholaeth fy hun, yn Rhuthun ac ym Mae Colwyn ac yn y Rhyl a Llandudno gerllaw, yn tynnu'n ôl o…
9 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Diolch am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Brif Weinidog. Fel y bydd Aelodau'r Siambr hon yn gwybod, rwyf wedi bod yn galw am sefydlu parc cenedlaethol yng ngogledd-ddwyrain Cymru ers blynyddoedd lawer. Mewn gwirionedd, gelwais am hynny gyntaf yn ôl yn 2010, pan oedd…
9 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu parc cenedlaethol newydd yng ngogledd-ddwyrain Cymru? OQ61639
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Trefnydd, a gaf i alw am ddau ddatganiad yr wythnos hon: un gennych chi yn rhinwedd eich swydd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol er mwyn i ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer Aelodau'r Senedd ynghylch y camau sy'n cael eu cymryd…
2 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwasanaethau offthalmoleg
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am dderbyn ymyriad. Fel y gwyddoch, mae Uned Llygaid Stanley wedi ei leoli yn Ysbyty Abergele, yn fy etholaeth i. Mae'r ysbyty hwnnw'n mynd i gael cyfle i ehangu ei gapasiti o wasanaethau yn y dyfodol, gan fod llawer o'r…
1 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Llifogydd—Paratoi ar gyfer y gaeaf
Felly, a gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet: pa waith y bydd yn ei wneud gyda CNC i edrych ar y posibiliadau ar gyfer buddsoddi yn lan chwith Afon Clwyd er mwyn i ni allu diogelu cymunedau lleol, oherwydd mae ei angen yn ddirfawr a does dim cynnydd wedi bod…